Dewch i gwrdd â Martin, ein Pennaeth Gwasanaethau i Blant

Beth yw eich cyflawniad proffesiynol mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn?

Rwyf wedi bod mewn gwaith cymdeithasol ers dros 30 mlynedd ac wedi gweithio yn y mwyafrif o feysydd amddiffyn plant yn yr amser hwnnw. Gweithio gyda theuluoedd i’w helpu i oresgyn anawsterau difrifol a dod o hyd i ffyrdd o aros gyda’i gilydd fu fy mhrif ffocws.

Y gwaith a roddodd y boddhad mwyaf i fi yw achosion amddiffyn plant cymhleth a gweld y plentyn drwy’r broses gyfan hyd at ei fabwysiadu. Mae’n anghyffredin bod gweithwyr cymdeithasol sy’n gwneud y gwaith amddiffyn plant cychwynnol yn gweld y plentyn yn cael ei roi mewn datrysiad parhaol tymor hir. Rwyf wedi bod yn y llys mabwysiadu ar sawl achlysur yn fy ngyrfa ac wedi gweld yr hapusrwydd a’r diogelwch y gall sefydlogrwydd eu cynnig i’r plentyn a’r teulu mabwysiadol.

Diolch i’r cyfryngau cymdeithasol, ar adegau, mae oedolion y gwnes i eu lleoli gyda theulu fel plant wedi cysylltu â fi. Mae wedi bod yn wych clywed bod y teuluoedd a ddewisais ar eu cyfer wedi rhoi sefydlogrwydd a chariad iddynt a’u bod wedi ffynnu o fewn y teuluoedd mabwysiadol.

Beth ydych chi’n ei garu am eich rôl?

Fel gweithiwr cymdeithasol, roeddwn bob amser yn canolbwyntio ar amddiffyn plant a gwaith llys. Fel rheolwr gwasanaeth, roeddwn i’n hynod falch o sut roeddwn i’n ymwneud â datblygu gwaith amlasiantaeth ym maes Camfanteisio Rhywiol ar Blant. Fel Pennaeth Gwasanaeth Xyla Health and Social Services (ICS Assessment Services gynt), rwy’n mwynhau creu timau a darparu atebion i rai o’r heriau y mae ein cleientiaid wedi’u nodi.

Sut ydych chi’n dewis eich tîm ar gyfer pob cleient?

Yn aml gofynnir i’r timau ymgymryd ag amddiffyn plant cymhleth a gwaith llys. Mae ansawdd y rheolwyr tîm a’r gweithwyr cymdeithasol rydyn ni’n eu recriwtio yn hanfodol i fi. Rwy’n chwilio am weithwyr cymdeithasol sy’n feddylwyr dadansoddol clir ac sy’n angerddol am sicrhau canlyniadau rhagorol i’r plant rydyn ni’n gyfrifol amdanyn nhw. Gall y timau weithio i weddu i anghenion unigol a thîm y grŵp.

Mae Xyla Health and Social Services (ICS Assessment Services gynt) yn grymuso ein timau prosiect i sicrhau bod gan ein gweithwyr cymdeithasol a’n rheolwyr prosiect bwrpas a rennir. Ein pwrpas yw datblygu perthnasoedd ymddiriedus gyda phlant neu bobl ifanc sy’n gonglfaen i unrhyw waith tuag at gynllun sefydlogrwydd.

Beth ydych chi’n dymuno i bobl ei wybod am fod yn Bennaeth Gwasanaethau i Blant?

Er fy mod yn weithiwr cymdeithasol am 34 mlynedd eleni gyda chyfoeth o brofiad yn rheoli gwasanaethau amddiffyn plant, mae fy rôl yn ymestyn y tu hwnt i ofal cymdeithasol plant o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn ymwneud â marchnata, rhagweld, cynllunio, datblygu gwasanaeth, recriwtio tîm a rheoli llinell. Mae bod yn rhan o dîm traws-swyddogaethol wedi caniatáu i fi ychwanegu mwy o werth i ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol o ansawdd uchel ledled y wlad.

Related
Posts