Dewch i gwrdd â Lee ac Alex

Beth ydych chi’n gyfrifol amdano yn Xyla Health and Social Services?

Rydyn ni’n datblygu ac yn rheoli perthnasoedd cadarn gyda’n cleientiaid, o sgyrsiau cychwynnol am brosiect posib a gweithredu prosiect hyd at gyfarfodydd rhanddeiliaid yn ystod ac ar ddiwedd prosiect.

Beth ydych chi’n dymuno i bobl wybod am eich rôl?

Mae ein rôl yn ymgorffori nifer o wahanol gyfrifoldebau, megis cefnogi gyda marchnata, ysgrifennu astudiaethau achos a mynychu digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol, gan flaenoriaethu taith ein cleientiaid o’r dechrau i’r diwedd bob amser.

Sut mae Xyla Health and Social Services yn gwneud gwahaniaeth i awdurdodau lleol?

Mae ansawdd yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gyflawni i’r safon uchaf. Gadael yr awdurdod lleol yn y sefyllfa orau posib y gallwn. Rydyn ni wedi gweithio gyda dros 45 o awdurdodau lleol i gwblhau amrywiaeth o brosiectau ar draws Gwasanaethau i Oedolion ac i Blant, gyda nifer o gleientiaid yn dod yn ôl atom gyda gofynion pellach.

A allech ddweud wrthym, beth yw eich cymhelliant dros eich gwaith?

Alex – Bod â’r wybodaeth bod ein prosiectau nid yn unig yn cefnogi’r awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol ond hefyd yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

Lee – Mae hi bob amser yn werthfawr gweld sgwrs gychwynnol yn tyfu ac yn datblygu i fod yn brosiect sy’n ein galluogi i ddarparu cefnogaeth i awdurdodau lleol a’u cenhadaeth i wella bywydau’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Related
Posts