Diogelu plant

Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid cyflwyno gwasanaethau diogelu plant mewn ffordd wahanol. Felly, gan ddilyn Canllawiau Cenedlaethol mewn perthynas â diogelu plant bob amser, rydyn ni wedi datblygu ffyrdd sy’n ein galluogi ni i barhau i gynnig ein gwasanaethau mewn ffordd rithwir, lle bod hynny’n bosib ac yn briodol.

Ein nod yw defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad helaeth wrth weithredu timau o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth teulu a reolir ac a gefnogir yn llawn ar rybudd byr iawn.

Ein nod yw cael tîm o weithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr ALl cyn pen 3/4 wythnos ar ôl gwneud cais am wasanaeth a pharhau i sicrhau y gall ein dewislen o opsiynau cymorth ychwanegu gwerth go iawn drwy gynorthwyo Gwasanaethau i Blant i gadw plant yn ddiogel.

Rydyn ni wedi gweithio gyda mwy na 40 o ALlau ar ystod eang o brosiectau gwaith cymdeithasol.

Rydyn ni’n cynnig ystod o brosiectau sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion, yn darparu gwerth rhagorol ac yn cael eu hargymell yn fawr gan Wasanaethau i Blant yr ALlau rydym wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol.

Dyma ychydig o enghreifftiau o wasanaethau y gallwn eu cynnig, y gellir eu haddasu i’ch anghenion blaenoriaeth eich hun:

  • Gwasanaethau Ymyl Gofal
  • Gwasanaethau Cyfeirio ac Asesu ac Ôl-groniadau
  • Gwasanaethau Plant Mewn Angen (CIN)
  • Gwasanaethau Amddiffyn Plant (CP) a Gwasanaethau Diogelu
  • Gwasanaethau Dirymu a SGO

Dysgu rhagor am ein gwasanaethau