Ein model PWRPASOL

Yn yr heriau a gyflwynir gan y pandemig presennol, mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo’r pwysau, yn enwedig o ran staffio ac adnoddau.

Mae Xyla Health & Social Services yn darparu gwasanaethau a reolir ar sail canlyniadau, gan ganiatáu i sefydliadau gefnogi elfennau o’u llwyth gwaith heb gur pen cyflogaeth dros dro a rheoli’r gweithlu. Gall rhaglenni cymorth hyblyg a gostir gan allbwn statudol ddarparu gallu critigol pan fydd galw yn uwch na’r normal, gyda datrysiad o ansawdd wedi’i sicrhau sy’n caniatáu i’r gwasanaeth barhau i gyflawni yn erbyn targedau perfformiad y cytunwyd arnynt ac amserlenni statudol.

Mae ein model PWRPASOL isod yn arddangos yr hyn sy’n ein rhoi wrth wraidd darparu atebion effeithiol o ansawdd uchel ar gyfer unrhyw sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Ehangder – Rydym wedi gweithio gyda dros 60 o sefydliadau yn ystod y pedair blynedd diwethaf i ddarparu gwaith cymdeithasol statudol a gwasanaethau iechyd rheng flaen, gan ganolbwyntio ar symleiddio taith y cleifion a’r defnyddwyr gwasanaeth, ar draws ystod o weithwyr proffesiynol a lleoliadau cymorth.

Mae ein tîm unigryw o 250 o ymarferwyr sy’n gweithio ledled y wlad, gyda chefnogaeth cronfa ddata o dros 20,000 o weithwyr proffesiynol iechyd a gwaith cymdeithasol, yn ogystal â thîm rheoli sydd â 50+ mlynedd o brofiad mewn arwain a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn golygu ein bod yn deall yr ystod eang o’r heriau sy’n wynebu’r cleientiaid rydyn ni’n eu cefnogi.

Rhagoriaeth – Mae pob un o’n gweithwyr proffesiynol yn cyflwyno dulliau arfer gorau, sy’n seiliedig ar gryfderau, o weithio gyda phobl sydd agored i niwed ac mae ganddynt flynyddoedd lawer o brofiad ar lefel uwch wrth ddarparu ymyriadau effaith uchel â therfyn amser, a all leihau ôl-groniadau yn gyflym a gwella canlyniadau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen.

Mae ein cleientiaid yn darparu cyfeiriadau a thystebau ysgrifenedig sy’n arddangos y canlyniadau rydyn ni wedi’u cyflawni ac yn cynnig sicrwydd i’ch helpu chi i wneud y penderfyniad cywir i’ch sefydliad.

Cefnogaeth – Nid ydym ond yn defnyddio timau o weithwyr proffesiynol i gefnogi’ch dyletswyddau rheng flaen. Mae ein timau prosiect arbenigol yn darparu gwasanaeth a reolir yn llawn gan gynnwys tîm o ymgynghorwyr a chymdeithion profiadol sy’n cefnogi trawsnewid strategol, p’un a yw ailgynllunio gwasanaeth ar raddfa lawn, hyfforddiant rheng flaen neu ddatblygu gweithlu neu bwysau cyllidebol sylweddol yn peri pryder.

Mae ein tîm yn cynnwys sicrhau ansawdd, staff cymorth busnes a rheoli ar lefel gwasanaeth, TG a swyddogaethau eraill, gan ddarparu adroddiadau a llywodraethu i sicrhau bod y canlyniadau allweddol bob amser yn nod i bob prosiect.

Partneriaeth – Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chi a’ch holl randdeiliaid allweddol gan sicrhau bod perthnasoedd yn cael eu meithrin a’u cynnal drwy’r cyfnod sydd, heb os, yn anodd ac yn heriol.

Mae ein swyddogaethau allweddol megis rhyddhau i asesu, adolygiadau pecynnau gofal o bell, gwasanaethau dyletswydd ac asesu a gwaith achos tymor hir yn rhannu dysgu ac arfer gorau gyda ffocws ar gyflawni’r gwerth gorau drwy fodelau rhannu risg, rhannu enillion, talu fesul allbwn a rhaglenni sy’n sefydlog o ran cyllideb. Mae hyn yn golygu bod ein holl ganlyniadau gwasanaeth wedi’u hymgorffori heb unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer yr adnodd ychwanegol na’r gwaith a wneir i gyrraedd nod y cytunwyd arno, gan gael gwared ar bwysau ariannol yn nes ymlaen.

Optimeiddio – Byddwn yn gwneud y gorau o’n hamser a’n hadnoddau i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu i’r fan lle mae eu hangen fwyaf gyda chefnogaeth o’r ysbyty i leoliadau cymunedol.

Mae prosiectau’n cael eu paratoi gyda gweithredu, hyfforddi a chofrestru, gan ddilyn protocolau caeth ac ar lawr gwlad mewn cyn lleied â 3 wythnos, gan ganiatáu i amser staff gael ei flaenoriaethu a gwneud y mwyaf ohono yn unol â DPAau y cytunwyd arnynt. Mae gweithio ar fodel talu fesul allbwn neu rannu risg, rhannu enillion yn golygu bod ein gwasanaethau yn parhau i ganolbwyntio ar y nod terfynol ac rydych chi’n talu am fodloni DPAau gwasanaeth yn hytrach na mewnbwn neu wastraffu amser a ddyrennir.

Gwybodaeth – Gyda blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac o’i gwmpas, rydym yn defnyddio tîm amlddisgyblaethol gan gynnwys Aseswyr Buddiannau Gorau, Aseswyr Nyrsio CHC, AMHP, Swyddogion Adolygu S117, Ymarferwyr Cymorth i Deuluoedd, Meddygon S12, Therapyddion Galwedigaethol a staff cymorth nyrsio a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol eraill.

Gan weithio ar draws sylfaen cleientiaid eang ac amrywiol o ran anableddau dysgu, pobl hŷn, anableddau corfforol ac iechyd meddwl, mae pob prosiect wedi’i adeiladu o’r gwaelod i fyny gyda’r gymysgedd sgiliau gywir o weithwyr proffesiynol wedi’u cefnogi gan sicrhau ansawdd ac yn cael ei oruchwylio gan ein tîm rheoli dan arweiniad ymarfer.

Effeithlonrwydd ac Effeithioldeb – Mae ein prosiectau’n sicrhau enillion o dros £3 ar gyfartaledd am bob £1 sy’n cael ei wario, sy’n tynnu sylw at werth ymgysylltu â’n gwasanaethau.

Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn effeithlon ac yn effeithiol, gyda modelau cyflenwi yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod sy’n gweithio’n dda yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. Mae rhai sefydliadau yn cilio oddi wrth wasanaeth model a reolir oherwydd eu bod yn credu y gallai cost fod yn broblem, fodd bynnag, credwn y bydd gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r ateb cywir bob amser yn sicrhau’r datrysiad gwerth gorau i ateb unrhyw alw, ansawdd neu her cost.

Related
Posts