Ein hymateb i COVID-19
Rydyn ni’n cydnabod bod hon yn adeg cyfrifoldeb cenedlaethol a phersonol ac y dylid cymryd mesurau i amddiffyn unigolion sydd mewn perygl mawr o COVID-19, yn ogystal â’u teuluoedd a’r bobl sy’n eu cefnogi.
Mewn ymateb i’r diffyg sicrwydd, rydyn ni’n paratoi datrysiadau wrth gefn er mwyn bodloni gofynion ar draws y gwasanaethau statudol rydym ni’n eu cefnogi.
Neges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Alex Sweeney, ar ymateb i’r her COVID-19.
“Fel llawer o fusnesau eraill, mae Xyla Health and Social Services wedi gorfod pontio ein gweithrediad swyddfa ym Manceinion yn gyflym i fodel gweithio o bell er mwyn parhau i weithio’n ddiogel ac yn gynaliadwy drwy’r argyfwng COVID-19. Mae gennym ni gyfrifoldeb i’r awdurdodau lleol (ALlau) a Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) rydyn ni’n gweithio gyda nhw, yn ogystal â’n defnyddwyr gwasanaeth, i sicrhau ein bod ni’n parhau i weithio i’r un safonau uchel a dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i’r heriau mae COVID-19 yn eu cyflwyno. Yn yr un modd, mae gennym ni gyfrifoldeb i aelodau ein tîm i sicrhau na fyddant yn agored i risg uwch o ddal COVID-19 oherwydd natur y gwaith rydyn ni’n gofyn iddynt ei wneud.
Rydyn ni wedi canolbwyntio’n bennaf ar gynnal ein gallu i gefnogi ein cleientiaid. Canlyniad categoreiddio gweithwyr cymdeithasol fel ‘gweithwyr allweddol’ oedd amlygu’r rôl hynod werthfawr maent yn ei chwarae yn ein cymunedau a’r gwaith hanfodol maent yn ei wneud.”
Addasu Gwasanaethau ar gyfer Pwysau yn yr Ysbytai ac i Ail-alluogi
Mae’r rhan fwyaf helaeth o’n gwaith Gwasanaethau i Oedolion yn cynnwys cysylltiad wyneb yn wyneb traddodiadol â phobl hŷn sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn y gymuned. Yn amlwg, mae llawer o’r bobl yn y grŵp demograffig hwn wedi’u nodi fel rhai mewn perygl mwy os byddant yn dal COVID-19, ac felly, yn ddealladwy, bydd llawer ohonynt yn amharod i groesawu ein timoedd o weithwyr cymdeithasol i’w cartrefi i gynnal asesiadau o’u hanghenion gofal.
Yn yr un modd, mae llawer o’r bobl y mae angen asesiad Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid arnynt yn breswylwyr mewn cartrefi gofal sydd, yn gwbl gywir, wedi rhoi cyfyngiadau mynediad ar waith mewn perthynas ag ymwelwyr. Dan yr amgylchiadau hyn, ein rôl ni yw cynllunio arferion gweithio effeithiol ond diogel sy’n ein galluogi ni i gysylltu â defnyddwyr eu gwasanaeth a rhanddeiliaid eu gofal, o bell.
Ein cyfrifoldeb ni fydd ystyried sut y gellir defnyddio’r adnoddau proffesiynol a’r sgiliau sydd gennym yn hyblyg, i fynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o bandemig COVID-19. Fel enghraifft, rydyn ni wedi cynllunio gwasanaeth ail-alluogi â’r nod o gefnogi’r broses o bontio’r bobl hynny yn yr ysbyty sy’n cael eu hystyried i fod yn ffit yn feddygol i adael i ddychwelyd i’w cartrefi gyda’r cymorth priodol ar eu cyfer yn y gymuned.
Yn ogystal, pan fydd awdurdodau lleol yn profi heriau o ran gweithluoedd wrth i gydweithwyr hunanynysu, deimlo’n sâl neu gael eu neilltuo ar gyfer blaenoriaethau eraill, rydyn ni wedi darparu atebion i awdurdodau lleol ar gyfer timoedd o weithwyr cymdeithasol wrth gefn, i sicrhau y gellir parhau gyda’r ‘busnes yn ôl yr arfer’.
Cefnogi Plant a Theuluoedd
Mae’r heriau a gyflwynwyd yn ein Gwasanaethau i Blant yn wahanol i’r rhai sy’n effeithio ar oedolion. Er nad yw plant yn cael eu hystyried i fod mewn categorïau risg uwch mewn perthynas â COVID-19 yn gyffredinol, ni ellir cyfaddawdu ar gynnal cysylltiad â phlant sy’n agored i’r risgiau, yn gymesur â’u hanghenion, gan y cyfyngiadau ar gysylltiad â symud rydyn ni’n eu dioddef ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ein ffyrdd o weithio yn cyd-fynd â’i gilydd a’n bod ni’n parhau i gyflawni ein dyletswyddau’n ddiogel.
Gweithio o bell 100%
Mae llwyddiant ein busnes yn seiliedig ar dîm gwych sy’n rheoli ac yn cydlynu gwasanaeth rheng flaen o’n swyddfa ym Manceinion, ac mae wedi bod yn hanfodol sicrhau y gall pawb weithio gartref.
Mae symud i fodel gweithio o bell wedi bod yn gymharol syml ac ar ôl i ni brofi’r gofynion technegol a hygyrchedd yn ystod yr wythnos flaenorol, roeddem ni wedi gallu cael 100% o’n cydweithwyr yn gweithio gartref o 17 Mawrth. Rwy’n credu nawr, ac yn y dyfodol, bod y broblem yn un ddiwylliannol yn hytrach na thechnegol. Mae’r tîm sy’n gweithio yn y swyddfa yn grŵp cymdeithasol iawn gyda pherthnasoedd proffesiynol a phersonol hir sefydledig ac wedi’u gwreiddio’n ddwfn – mae’r grŵp yn cynnwys chwiorydd a ffrindiau o’r brifysgol. Yn ogystal â gweithio ar y cyd, yn aml iawn bydd cydweithwyr yn mynd i gael cinio gyda’i gilydd, yn mynd i siopa ac efallai (yn achlysurol yn unig, wrth reswm!) yn mynd i gael diod neu fwyd ar ôl y gwaith. Byddai tynnu sgaffoldio’r perthnasoedd hynny, heb gydnabod na cheisio lliniaru’r effaith, yn gam gennym ni fel busnes.
Fel llawer o fusnesau, rydyn ni wedi defnyddio cynadleddau dros y ffôn, Skype a Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol, ac wedi llwyddo i gynnal ein rhaglen lawn o gyfarfodydd o gartref, gan gynnwys ein ‘Dosbarth Meistr’ misol, lle’r oedd pwnc y mis hwn yn cynnwys cyflwyno swyddogaeth a methodoleg asesiadau Gofal Iechyd Parhaus i’r tîm ehangach.
Fodd bynnag, rwy’n credu ei bod hi’n llawer mwy heriol ail-greu ‘bwrlwm’ y swyddfa – y sgyrsiau anffurfiol, y cymorth a’r ffraethineb – ac rwy’n credu bod hwn yn faes lle bydd angen talu sylw ofalus i sicrhau na chaiff ei golli neu ei danwerthfawrogi.
I ddechrau, rydym ni’n cael ‘egwyl de’ rithwir dwywaith y dydd lle gall cydweithwyr ymgynnull ar Skype a siarad yn yr un ffordd y byddant dros baned. Rydyn ni hyd yn oed wedi cynnal parti pen-blwydd rhithwir ac mae parti ynysu yn yr arfaeth! Yn anochel, mae llawer o’r syniadau da hyn yn dod o’r tîm, felly rydyn ni wedi bod yn awyddus i annog arloesedd a chreadigrwydd.
Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod y cydweithwyr hynny â dibynyddion yn gallu gweithio’n hyblyg ac wedi dechrau ystyried sut y gallai gofynion gwyliau blynyddol newid.
Fel gyda llawer o fusnesau, mae ein hymagwedd at y byd neu’r gweithle newydd (er dros dro) yn datblygu, o ran y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig ond hefyd strwythur ein busnes a sut rydyn ni’n rheoli ein pobl.