Cyngor Sir Swydd Gaerwrangon

320 o Asesiadau Buddiannau Gorau

Cawson ni ein contractio gan Gyngor Sir Swydd Gaerwrangon yn 2016 ar ôl i’w Dîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) brofi hyd at 360 o atgyfeiriadau bob chwarter ac roeddent wedi tyfu ôl-groniad o 1,800 o achosion DoLS gydag Awdurdodiadau Safonol mewn perygl o gael eu gohirio.

Yn ogystal â’r Cyngor yn mynd ati i recriwtio mwy o Aseswyr Buddiannau Gorau i swyddi parhaol, fe wnaethant archwilio opsiynau hyfyw eraill gyda Xyla Health and Social Services er mwyn ymateb yn effeithiol i’w heriau uniongyrchol. Yn dilyn hynny, gwnaethon ni ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i reoli ar gontract allanol i gwblhau dros 300 o Asesiadau Buddiannau Gorau i gynorthwyo gyda’r ôl-groniad.

Cyflawniadau Allweddol:

  • 322 o Asesiadau Buddiannau Gorau wedi’u cwblhau a’u trosglwyddo i’r Cyngor i’w Hawdurdodi
  • Cliriwyd ôl-groniad achosion mewn 18 wythnos gan ddefnyddio Aseswyr Buddiannau Gorau cymwys
  • Derbyniwyd 88% o’r asesiadau ar ôl eu cyflwyno gyntaf
  • Cliriwyd yr asesiadau mewn pryd ac yn unol â’r gyllideb
  • Cyflwyno achosion mewn 18 diwrnod gwaith

Ein Dull:

Cysylltodd Pennaeth Diogelu Oedolion y Cyngor â ni o ganlyniad i’w heriau, i drafod gwasanaeth asesiadau allanol a reolir yn llawn. O ystyried ein profiad o leddfu ôl-groniadau asesiadau DoLS mewn ardaloedd o faint tebyg i Swydd Gaerwrangon, roedden ni’n gallu cyfarwyddo’r Cyngor ynghylch y dull gorau i’w gymryd. Gwnaethon ni ddangos ein ffocws ar ddull o ansawdd, gwerth am arian, a darparu gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys Asesiadau Buddiannau Gorau a Sicrhau Ansawdd.

Gwnaethon ni drefnu cyfnod cwmpasu a gweithredu cyflym, lle cyfarfu ein Pennaeth Prosiectau ac Arweinydd DoLS â rheolwyr y Cyngor a rhanddeiliaid i:

  • Baratoi’r prosesau trosglwyddo diogelwch
  • Cael dealltwriaeth o drothwyon ansawdd y Cyngor
  • Darganfod pa wybodaeth adrodd fyddai ei hangen ar Swydd Gaerwrangon

Yna lluniwyd cynllun prosiect manwl, y cytunwyd arno gan bob parti, a chadwyd ato drwy gydol y contract. Gwnaethon ni gwblhau’r ôl-groniad gwreiddiol o fewn 18 wythnos, gan ddefnyddio ein cronfa helaeth o Aseswyr Buddiannau Gorau yn yr ardal leol i gwblhau asesiadau. Yn unol â’n cynllun prosiect, cafodd yr aseswyr hyn eu cydlynu a dyrannwyd asesiadau iddynt gan ein Tîm Gweinyddu DoLS pwrpasol, gydag ansawdd pob asesiad wedi’i sicrhau gan ein Harweinydd mewnol DoLS.