Amddiffyn a Diogelu Plant

Rydyn ni’n darparu proses gadarn, sydd wedi mynd drwy broses sicrhau ansawdd, ar gyfer darparu gwasanaethau diogelu – gan weithio’n effeithiol gyda thimau gwaith cymdeithasol i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, ac yn ddiogel rhag esgeulustod a chamdriniaeth.

Mae ein prosiectau yn cefnogi ein cleientiaid i reoli achosion, drwy ddarparu swyddogaeth swyddfa gefn gadarn a Rheolwyr Gwasanaeth profiadol, gan gefnogi tîm arbenigol o staff gwaith cymdeithasol profiadol. Rydyn i’n sicrhau bod pob cynllun yn SMART er mwyn osgoi drifft wrth symud ymlaen gydag achosion.

Rydym yn cysylltu â thimau MASH, gan gynnal asesiadau, nodi a chwblhau (lle bo hynny’n briodol) ymholiadau adran 47 a Chynadleddau Amddiffyn Plant Cychwynnol (ICPC) i amserlenni statudol. Ein nod yw sicrhau bod ein holl waith yn hyrwyddo llais y plentyn a sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi drwyddi draw.

Mae ein gwasanaethau pwrpasol yn cynnig:

  • Gwaith diagnostig (sicrhau bod achosion yn cael eu rheoli’n briodol yn unol â’r trothwyon y cytunwyd arnynt) gweithio amlasiantaethol gyda’r Heddlu, Iechyd, Addysg ac unrhyw weithwyr proffesiynol perthnasol eraill i sicrhau bod achosion yn cael eu symud ymlaen mewn modd amserol
  • Creu Cynlluniau SMART ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd
  • Tîm o weithwyr cymdeithasol plant medrus a ddewiswyd â llaw i symud achosion ymlaen drwy gydol oes ein hymyrraeth
  • Arweinydd Prosiectau pwrpasol i ddarparu cyngor ac arweiniad ar reoli atgyfeiriadau ac achosion

Defnyddio Gwasanaethau Diogelu a Reolir – y Buddion:

Mae pob un o’n prosiectau wedi’u hanelu at leihau llwythi gwaith mewnol yn eich adrannau gwaith cymdeithasol, gan sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol gyda’r holl asiantaethau wrth ddal yr holl weithwyr proffesiynol yn gyfrifol wrth hyrwyddo anghenion a blaenoriaethau unigolyn. Mae ein prosiectau yn cynnig:

  • Gwell DPA – mae 100% o achosion a reolir gan Xyla yn cwrdd ag amserlenni statudol ICPC
  • Asesiadau Sengl wedi’u diweddaru i gynnwys ymchwil a phwyslais cryf ar lais y plentyn drwyddo draw
  • Gweithiwr cymdeithasol cyson i roi’r ymyrraeth ar waith i symud yr achos yn ei flaen
  • Gwaith aml-asiantaeth gwell gyda’r heddlu, MASH ac asiantaethau eraill
  • Cynyddu trwybwn achosion (mewn prosiectau blaenorol hyd at 40%)
  • Rhoi adborth i dimau gwaith cymdeithasol drwy gyfarfodydd Datblygu Gwasanaeth a rheoli
  • Adrodd Perfformiad Wythnosol, a chyfrannu at fetrigau perfformiad allweddol (DPA) mewnol y Cyngor.